Does ddim rhaid i ffordd o fyw cynaliadwy olygu newidiadau enfawr i sut yr ydych chi’n byw. Roeddem ni eisiau rhannu deg ffordd hawdd i chi fyw yn fwy cynaliadwy (yn ogystal â bod yn aelod o Bwyd da Môn!). Hyd yn oed os mai dim ond un o’r newidiadau bach isod rydych chi’n ei gymryd a’i wneud yn rhan o’ch diwrnod mae hynny’n gamp enfawr. Ac wrth i chi arfer efo’r pethau bychain ac maent yn dod yn rhan o’ch trefn arferol gallwch gyflwyno mwy a mwy o newidiadau bach.

1. Ailgylchwch bopeth y gallwch

Rydym ni’n gwybod bod y rhan fwyaf o bobl yn ailgylchu yn barod, ond oes yna bethau sydd yn glanio yn y bin oherwydd dydych chi ddim yn gwybod os gallwch chi eu hailgylchu neu beidio? Mae hi’n amser dd ai gychwyn gwario mwy o amser yn canfod os ydych chi’n medru ailgylchu plastigion penodol neu olchi cynhwysyddion gwg er mwyn gwneud yn siŵr y gellir eu hailgylchu.

Waste_014.jpg

2. Defnyddiwch botel dwr ailddefnyddiadwy

Mae eich potel dwr ailddefnyddiadwy yn ffordd wych i leihau gwastraff gan olygu nad oes angen i chi fynd am y botel blastig bob amser mae angen dwr ar glud arnoch. Mae yna rhai del iawn ar gael – rydym ni wrth ein boddau efo rhai gan Chillys.

3. Dechreuwch i ddefnyddio gwelltyn ailddefnyddiadwy

Mae ymchwilwyr wedi canfod plastig mewn tua 90% o bob rhywogaeth o adar môr a phob rhywogaeth o grwbanod y môr. Mae ailgylchu a chael gwared â sbwriel yn iawn yn helpu i leihau beth sydd yn gorffen mewn claddfa sbwriel a bobman y mae sbwriel yn glanio, ond beth sydd yn well byth yw rhoi’r gorau i ddefnyddio gwelltyn plastig. Os ydych chi’n hoffi defnyddio gwelltyn beth am newid i un metel, ailddefnyddiadwy? Maent ar gael mewn archfarchnadoedd, neu beth am y rhain gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol efo’u brwsh glanhau eu hunain?

4. Defnyddiwch cadachau ailddefnyddiadwy yn lle papur cegin

Er fod papur cegin yn gyfleus, mae newid i gadach ailddefnyddiadwy yn ffordd wych i leihau faint ydych chi’n ei daflu. Gallwch olchi eich cadachau unwaith maent yn fudr, a parhau i’w ailddefnyddio.

5. Cofiwch eich bag am byth

Gwnewch yn siŵr i gofio eich bag ailddefnyddiadwy pan ydych chi’n mynd i siopa. Mae lleihau’r nifer o fagiau plastig rydych yn eu defnyddio yn gam gwych i’w gymryd tuag at wella’r amgylchedd, hefydd ni fydd rhaid i’r hen fagiau plastig gymryd lle adref!

6. Siopiwch yn lleol

Gall siopa yn lleol leihau milltiredd awyr eich bwyd a hefyd yn golygu y byddwch yn bwyta fwy o gynnyrch tymhorol sydd felly yn helpu i leihau eich ôl troed carbon drwy brynu bwydydd sydd wedi’u dyfu neu gynhyrchu yn lleol. Mae cynnyrch tymhorol yn tueddu i gael ei gynhaeafu er ei orau ac felly yn cadw bob un o’i maetholion, yn ogystal â bod yn wych i’r amgylchedd.

7. Tyfwch eich bwyd eich hun

Wythnos diwethaf wnaethom ni rannu ffyrdd i ail-ddefnyddio gweddillion eich ffrwythau a llysiau i dyfu planhigion newydd. Mae hyn yn ffordd wych i fyw yn fwy cynaliadwy gan eich bod yn cynhyrchu pethau newydd i fwyta o weddillion y byddech fel arall wedi taflu. Gallwch hefyd dyfu ffrwythau, llysiau a pherlysiau gan ddefnyddio hadau. Hyd yn oed os nad oes gennych lawer o le tu allan, neu unrhyw ardd o gwbl, gallwch dyfu digonedd o berlysiau ar sil ffenest.

8. Defnyddiwch cadachau lapio cŵyr gwenyn yn lle haenen lynu

Er mwyn lleihau’r faint o blastigion un defnydd yr ydych y neu ddefnyddio gallwch ddefnyddio cadachau lapio cŵyr gwenyn i amddiffyn eich bwyd. Gwell byth, mae yna gwmni lleol ar Ynys Môn yn eu gwerthu.

9. Cymerwch gipolwg mewn siopau vintage neu elusen

Ydych chi erioed wedi clywed y dywediad Saesneg “one man’s trash is another man’s treasure”? Ewch i chwilota mewn siopau elusen neu vintage er mwyn lleihau effaith eich wardrob ar yr amgylchedd. Drwy brynu dillad ail-law neu hyd yn oed rhoddi eich hen ddillad rydych chi’n medru ael mwy o fywyd allan o un dilledyn. Yn well fyth, yn ogystal â bod yn fwy cynaliadwy, efallai wnewch chi ffeindio darnau newydd i wisgo y byddwch yn ei garu am flynyddoedd.

10. Cerddwch i bobman y gallwch

Os ydych yn mynd allan ag ddim ond yn mynd rownd y gornel, peidiwch â phigo’r goriadau car i fyny a cherddwch. Nid yn unig ydych chi’n lleihau eich allyriadau ond rydych chi hefyd yn cael fwy o ymarfer corff dros gydol y diwrnod. Drwy leihau’r nifer o weithiau rydych chi’n defnyddio’r car ar gyfer teithiau byr gallwch wneud gwahaniaeth mawr i’ch ôl troed carbon

Mae yna gymaint o ffyrdd y gellwch fyw yn fwy cynaliadwy ond rydyn ni’n meddwl fod y rhain yn le gwych i ddechrau. Pa gamau ydych chi’ eu cymryd er mwyd bod ychydig mwy ffeind i’r amgylchedd?

Bwyd Da Mon x