Oeddech chi’n gwybod eich bod chi’n medru tyfu planhigion newydd o’ch GWEDDILLION ffrwythau a llysiau yn lle eu taflu? Efo ychydig o amynedd a gofal gallwch chi dyfu shibwns, afocados, tatws, i gyd allan o rannau o’r llysiau y byddech chi’n eu taflu i’r bin fel arfer. Rydym ni wedi dod ag ychydig o argymhellion at ei gilydd ar y ffordd orau i ail-dyfu eich llysiau ; does ddim angen gardd enfawr arnoch er mwyn i chi fod yn llwyddiannus, dim ond sil ffenest efo digon o haul ag ychydig o ddŵr i’r rhan fwyaf o’r planhigion yma.
Ail dyfwch shibwns mewn wythnos
Ar ôl i chi dorri pen gwreiddyn eich shibwns yr holl sydd angen i chi wneud yw rhoi’r gwreiddiau mewn jar o ddŵr er mwyn i sbrigiau gwyrdd newydd dyfu. Fydd rhaid i chi wneud yn siŵr fod ganddynt ddigon o oleuni haul a dŵr, ond o fewn wythnos fydd gennych sbrigiau gwyrdd newydd. Mae hyn yn berffaith ar gyfer ryseitiau sydd dim ond angen ychydig o shibwns fel garnais (neu i rai sydd ychydig yn ddiamynedd ac eisiau gweld eu llysiau yn tyfu yn sydyn!).
Tyfwch coesynnau garlleg o un ewin
Ydych chi wedi cael garlleg sydd wedi dechrau tyfu sbrigiau bach ar ôl bod yn y cwpwrdd am rhy hir? Er na fyddwch chi eisiau rhoi hwn i mewn i’ch bwyd, mae’r ewin wedi egino yn berffaith ar gyfer ail tyfu coesynnau garlleg newydd. Mae’r coesynnau yn blasu yn union fel garlleg, ond ychydig mwy mwyn, ac yn berffaith ar gyfer saladau neu brydau wedi dro-ffro. Gallwch hyd yn oed defnyddio’r coesynnau mewn ryseitiau sy’n gofyn am arlleg (fydd jest angen i chi ddefnyddio 3-4 coesyn am bob ewin garlleg). Gadewch yr ewin garlleg heb ei blicio a rhowch i mewn i wydriad bach o ddŵr, gan wneud yn siŵr mai dim ond gwaelod yr ewin sydd o dan dwr (os wnewch chi orchuddio’r ewin cyfan wneith o droi’n ddrwg). Rhowch hwn rhywle heulog a fydd ganddo’ch coesynnau mewn ychydig o ddyddiau. Unwaith iddyn nhw dyfu i ryw chwe modfedd, gallwch dorri ychydig a’i ddefnyddio mewn beth bynnag ydych chi’n ei goginio!
Tyfwch cennin newydd o’r gwreiddiau
Dydy cennin ddim yn unig yn gwneud cawl blasus, ond maent yn isel o ran calorïau ond yn uchel o ran maetholion (yn enwedig magnesiwm a fitaminau A ag C). Ar ôl i chi dorri pennau eich cennin i’w ddefnyddio ac mae pen gwyn y gwreiddyn ar ôl, rhowch y pen gwreiddyn mewn cynhwysydd bas. Rhowch y cynhwysydd rhywle heulog a newidiwch y dŵr bob hyn a hyn. Ar ôl tua wythnos fydd y cennin yn dechrau ail-dyfu eu hunain, a gallwch ddefnyddio’r sbrigiau gwyrdd newydd i greu prydau blasus. Mae’r cennin mor hawdd i dyfu, os rhowch dipyn ohonynt mewn dŵr efallai fyddwch yn tyfu cennin yn gyflymach na allwch eu defnyddio.
O hen datws i blanhigyn
Mae pawb wedi gweld yr egin yn tyfu ar datws ar ôl anghofio amdanynt yn y cwpwrdd. Oeddech chi’n gwybod mae llygaid tatws yw enw’r egin, ac mai dyma sydd angen arnoch i ail-dyfu planhigyn tatws?
Mae hyn ychydig yn fwy cymhleth na’r planhigion eraill a ddim bob amser yn gweithio oherwydd y driniaeth ar y tatws rydym yn prynu o’r archfarchnadoedd er mwyn eu hatal rhag egino. Opsiwn arall os ydych chi’n awyddus iawn i dyfu eich tatws eich hunain yw prynu tatws hadyd o’r ganolfan arddio, ond roeddem ni eisiau dangos i chi sut i wneud rhag ofn i chi eisiau arbrofi efo tatws sydd ddim bellach ar eu gorau. Fydd angen taten efo llygaid tatws arnynt, pot planhigyn ag ychydig o bridd (rydym ni’n awgrymu i chi eu cadw mewn pot yn hytrach na’u plannu yn syth i mewn i’ch gardd er mwyn gwneud yn siŵr nad yw’r planhigyn tatws yn niweidio ar y planhigion eraill sy’n tyfu yn eich gardd). Fydd angen i’r tatws ydych chi’n defnyddio bod tua’r un maint a phêl golff er mwyn iddo gae digon o faeth i dyfu planhigyn newydd, ac os ydy hi’n fwy rydym ni’ awgrymu ei thorri i tua maint pêl golff, gan wneud yn siŵr fod llygaid ar unrhyw rannau rydych chi eisiau plannu. Unwaith i’ch taten egino ac wedi’i thorri i ddarnau main pêl golff mae angen i chi ei adael i sychu allan am ychydig o ddyddiau er mwyn ei hatal rhag pydru, unwaith iddo sychu plannwch i tua 2-3 modfedd i lawr mewn pridd llaes sydd wedi draenio yn dda. Mae’n hollbwysig i barhau i ddyfrio’ch taten unwaith i chi ei blannu achos maent yn sychedig iawn, maent hefyd yn ffynnu mewn golau haul llachar felly gwnewch yn siŵr eu bod mewn rhywle heulog. Ar ôl ychydig o wythnosau fydd ganddo’ch sbrigiau tatws, ac unwaith bydd y rhain 8-10 modfedd o daldra rhowch ychydig o bridd o amgylch y sbrigiau (wneith hyn helpu cynhyrchu cnwd mwy o datws!). Unwaith bod eich planhigyn ganddo’ch chi, mae’n amser i ddisgwyl yn amyneddgar; fydd hi tua 3 mis cyn i datws newydd ddechrau datblygu o dan y ddaear.
Prosiect Afocado tymor hir
Mae afocados wedi dod yn ofnadwy o boblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf, boed hynny i frecwast, brecinio, cinio neu i de. Maen nhw yn fwy na rhan flasus o bryd o fwyd, maent yn un o’r unig ffrwythau sy’n cynnwys braster iach. Byddwch yn aml yn clywed pobl yn canu clod afocados fel bwyd llawn lles gyda phob afocado yn cynnwys 15 gram o fraster iach a dros 20 o fitaminau a mwynau!
Os oes ganddo’ch ychydig mwy o amser (rydym ni’n sôn am flynyddoedd nes bydd ganddo’ch coeden afocado aeddfed) gallwch ddefnyddio hedyn yr afocado i dyfu planhigyn newydd. Dyma sut!
Ar ôl i chi fwyta’r afocado, glanhewch yr hedyn gan wneud yn siŵr i gadw’r croen brown ar yr hedyn gan mai dyma orchudd yr hedyn. Fydd pen gwreiddyn yr hedyn o ben mwy llydan yr afocado a dyma’r pen sydd angen mynd i mewn i’r dŵr (os ydych chi wedi bwyta’r afocado yn barod a ddim yn siŵr pa ben yw pa un, mae’ top ychydig yn fwy pigog). Ar ôl i chi lanhau’r hedyn, fydd angen i chi ei dyllu gyda phedwar ffon coctel er mwyn i chi fedru rhoi gwaelod yr hedyn yn unig mewn gwydriad o ddŵr. Unwaith fod gan eich hedyn ei gynhaliad ffyn coctel, gadewch iddo eistedd mewn gwydriad o ddŵr ar sil ffenest heulog (gan wneud yn siŵr i newid y dŵr bob ychydig o ddyddiau).
Fydd angen i chi fod yn amyneddgar gan fydd hi’n cymryd tua 8 wythnos i’r egin dyfu, gan wneud yn siŵr fod yna ddŵr ar gyfer yr hedyn bob amser. Unwaith iddo gyrraedd tua 6 modfedd o daldra gallwch ei drosglwyddo i botyn planhigyn gyda phridd a’i osod ar sil ffenest heulog. Mae’n anodd dweud os bydd eich coeden yn cynhyrchu ffrwythau, gyda rhai yn cymryd hyd at 15 mlynedd i ddechrau rhoi ffrwythau. Hyd yn oed os gewch chi ffrwythau mewn ychydig o flynyddoedd peidiwch â disgwyl iddynt edrych fel eu rhieni, mae afocados wedi’u dyfu yn naturiol yn dod mewn bob math o feintiau a siapiau.
Planhigion ty pinafal
Er bod pen eith pinafal yn annhebygol o dyfu pinafal newydd (oni bai eich bod yn arddwr arbennig efo lot o amser) gallwch dal ei ddefnyddio i dyfu planhigyn tu llawn hwyl. Gwnewch yn siŵr i ddewis pinafal gyda dail rydych yn hoffi, ag unwaith i chi dynnu’r pen i ffwrdd a bwyta’r ffrwyth, gadewch iddo sychu am ychydig o ddyddiau. Gallwch egino’r pen mewn dŵr ond mae’n debygol gewch chi well lwc drwy ei roi mewn potyn planhigyn gydag ychydig o bridd. Er mwyn tyfu gwreiddiau fydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn ei ddyfrio yn aml a'i bod yn cael digonedd o olau anuniongyrchol. Mae’n cymryd tua 2 fis i wreiddiau datblygu , ac unwaith fod y gwreiddiau yn y pridd yn gadarn gallwch adael iddo gel fwy o oleuni. Unwaith bod ganddo’ch planhigyn trofannol, gwreiddiog fydd angen i chi ei gadw tu fewn gan nad yw planhigion pinafal edi’u wneud ar gyfer tywydd oer Cymru.
Ac wrth gwrs os nad ydych chi’n arddwr gallwch bob amser defnyddio’r gweddillion i wneud cawl neu stoc!
Bwyd Da Mon x