MAE BWYD DA MÔN YN RECRIWTIO CYFARWYDDWYR

Ymunwch â ni fel cyfarwyddwr gwirfoddol a byddwch yn rhan o dîm gweithredol sefydliad sydd wedi ymrwymo i leihau’r lefelau o wastraff bwyd sy’n mynd i safleoedd tirlenwi, taclo tlodi, darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth a chydweithio â gwahanol asiantaethau o bob rhan o Ynys Môn.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwyr Gwirfoddol i ymuno â’n tîm gweithredol.

Byddwch yn ymuno â thîm gweddol newydd ar amser hynod o bwysig wrth i ni osod ein blaenoriaethau strategol a ffurfio ein cynllun. Rydym wedi penodi ein Rheolwr Datblygu Bwyd Da Môn cyntaf yn ddiweddar a fydd yn arwain ar ehangu’r cynllun.

Gall yr unigolyn cywir gyfrannu i’r rôl hon mewn gwahanol ffyrdd ond bydd agweddau sylfaenol y rôl yn cynnwys:

• Mynychu cyfarfodydd gweithredol / bwrdd bob yn ail wythnos yn rhithiol • Cefnogi’r gwaith o ddenu arian grant a chodi proffil Bwyd Da Môn • Llunio a darparu strategaeth a sicrhau bod y sefydliad yn bodloni ei amcanion cymdeithasol • Sicrhau bod Bwyd Da Môn yn parhau i dyfu, datblygu a sicrhau cydymffurfiaeth lawn â gofynion Tŷ’r Cwmnïau.

Beth ydym yn chwilio amdano?

• Rydym yn chwilio am unigolion â phrofiad o arwain ar lefel uwch i ymuno â’n Bwrdd ac i weithio â’n tîm er mwyn goruchwylio datblygiad ein gwasanaethau a’n sefydliad • Profiad blaenorol o reolaeth ariannol mewn busnes, yn enwedig sefydliad trydydd sector
• Profiad o reoli cyfrifon cwmni • Gallu i roi ychydig o’u hamser hamdden i allu cefnogi datblygiad Bwyd Da Môn ledled Ynys Môn • Gweithio fel rhan o dîm er mwyn gallu darparu cyfeiriad ac arweinyddiaeth o fewn grŵp bwrdd Bwyd Da Môn.

Byddwch yn helpu i adeiladu sefydliad gwydn a chynaliadwy sy’n gallu bodloni anghenion a datblygu llesiant trigolion Ynys Môn drwy leihau gwastraff bwyd a chynyddu mynediad at ffynonellau bwyd mwy fforddiadwy.

Mae gwybodaeth am y cwmni i’w gweld drwy wefan Tŷ’r Cwmnïau:

https://find-and-update.company-information.service.gov.uk/company/12859987

Gwefan Bwyd Da Môn:

https://www.bwyd-da-mon.org.uk/

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o gefndiroedd amrywiol a’r rhai hynny ag anableddau.

Os hoffwch drafod ym mhellach, croeso I chi gysylltu efo Cadeirydd Bwyd Da Môn, Alwyn Rowlands - alwyn@ynysmoncab.org.uk

Diolch