Yr wythnos yma mae ein gwirfoddolwr Stephen wedi cyfrannu ei siliau ysgrifennu yn ogystal â'i gyfraniad ardderchog i Fwyd Da Môn, er mwyn dweud wrthym ni pam ei fod yn mwynhau gwirfoddoli i Fwyd Da Môn.

Mae pethau gwahanol o bwys i bob un ohonom ni, ond un o fy rhai i yw gweld Ynys Môn yn llwyddo. Iawn, dwi wedi ymwneud a darparu prydau o fwyd a chefnogi banciau bwyd, sydd yn un peth, ond pan nes i glywed am Bwyd Da Môn, nes i feddwl – haleliwia, am fenter wych. Mae’n gas gen i wastraff hefyd – wrth dyfu i fyny a rŵan fel rhywun efo wyrion, doedden ni byth yn taflu pethau, yn sicr dim bwyd. I’r archfarchnadoedd taflu bwyd sydd yn berffaith dda yn syml achos o’r ffaith nad oedd cartref ar gyfer ychydig ohono, mae rhaid ffeindio ffordd arall. Mae gweithio yn y siop Llangefni wedi bod yn agoriad llygad - y gwerth mae rhywun yn cael am eu harian, am un peth. Yr holl fwyd yma am £5 yr wythnos? A’r amrywiaeth hefyd. Gwir, mae yna bob math o eitemau bob-dydd y mae pawb eisiau, ond weithiau mae’r pethau ar y silffoedd neu’r rhewgelloedd ag oergelloedd yn fy synnu, hyd yn oed pethau nad ydw i erioed wedi clywed amdanynt o’r blaen. Mae’r cwsmeriaid yn amrywio gymaint â’r bwyd. Yn aml maent yn chwilio am fwyd ar gyfer eu teulu, ond mae rhai yn awyddus i wybod beth sy’n newydd, beth sy’n ddiddorol neu yn rhywbeth newydd i drio, neu i wneud yn rhan o bryd newydd o fwyd. Ni waeth am sut y maent yn siopa, mae hi bob amser yn wych pan fyddent yn cerdded i ffwrdd yn hapus ac eich bod chi wedi chwarae rôl yn hynny. Stephen Marsden – gwirfoddolwr ers Mawrth 2021