Yma yn Bwyd Da Môn, rydyn ni bob amser yn ofnadwy o falch o’n gwirfoddolwyr. O helpu i weini ein haelodau efo gwen ar eu hwynebau (hyd yn oed efo mwgwd!) a chreu’r awyrgylch hwyliog rydyn ni wedi dod yn adnabyddus amdano, i gasglu rhoddion gan ein partneriaid, hyd yn oed i’n bwrdd o gyfarwyddwyr, fyddai hi ddim yn bosib o gwbl i ni fodoli hebddynt. Mae’r post hwn yn ymroddedig iddyn nhw, ac felly pwy gwell i drafod sut beth ydy gwirfoddoli i ni, nag un o’r tîm?
Katherine Edwards: gwirfoddolwraig ers Mai 2021:
Nes i gychwyn fel aelod o Bwyd Da Môn, ond nes i ddisgyn mewn cariad efo’r syniad, a phopeth mae’r cwmni dielw yn sefyll dros. Nes i benderfynu cymryd y naid a dechrau gwirfoddoli. Dyma oedd un o’r pethau orau i mi wneud mewn amser hir. Wrth wirfoddoli rydw i’n cael synnwyr go iawn o gyflawniad ac yn teimlo fy mod i’n rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. Trwy wirfoddoli rydw i wedi gwneud ffrindiau a chyfarfod gymaint o bobl wahanol o fy nghymuned fy hun. Bob math o bobl anhygoel, i gyd efo un diddordeb cyffredin; arbed gwastraff bwyd. Trwy ddod yn wirfoddolwraig rydw i wedi dysgu amryw o bethau a dyma’r profiad orau i mi erioed gael. Mae gen i sgiliau newydd a ffrindiau oes. Mae bod yn wirfoddolwr i gwmni dielw cymunedol fechan yn brofiad anhygoel ac rydw i mor falch i fod yn rhan o’r tîm.
Dim ond un o’n tîm ffantastig yw Katherine, os hoffwch chi ymuno â hi, mae croeso i chi gael mewn cyswllt ar info@bwyd-da-mon.org.uk