Mae pob un ohonom ni wedi derbyn ffafr gan rywun, a gwneud yn ôl ar un adeg o’n bywydau, o roi benthyg cwpan o siwgr i gymydog i adael i rywun mynd o’ch blaen wrth ddisgwyl wrth ddesg talu’r archfarchnad.
Mae rhai’n ei alw’n karma, mae eraill eisiau teimlo eu bod yn gneud cymwynas, yn gwneud y byd ychydig yn well.
Mae rhywun yn tueddu i glywed yr ymadrodd “pay it forward” (lle mae rhywun yn ymateb i garedigrwydd rhywun drwy fod yn garedig i rywun arall) yn eithaf aml mewn siopau coffi neu fwytai lle rydych chi’n gyrru trwodd i gasglu’ch archeb, lle mae rhywun yn cynnig talu dros y person tu ôl iddynt. Dim syniad pwy ydyn nhw, na beth maen nhw’n archebu, mae rhywun yn penderfynu yn syml i gychwyn cadwyn o garedigrwydd.
Mae nifer o'n haelodau yn gofyn i’r tîm yn Fwyd Da Môn am basio eu tanysgrifiad ymlaen i rywun arall ar wythnosau lle nad ydynt yn medru dod i mewn. Mae rhai yn dewis rhoi cyfle i ffrind do di fewn i gael trio’r gwasanaeth, mae eraill yn syml yn methu wythnos, sydd yn gadael i ni ddefnyddio’r arian o’r tanysgrifiad i gefnogi aelodau o’r gymuned sydd angen hwb fach am ychydig o wythnosau.
Mae’r nifer o bobl sydd yn dewis dangos y caredigrwydd yma bob amser yn codi ein calonnau. Ac rydyn ni’n gobeithio wrth i ni wneud gwahaniaeth mwy i’r rhai sydd angen, fydd hi’n codi eich calonnau chi hefyd.
*mae unrhyw ddargyfeiriadau ar gyfer aelodaeth drwy gymhorthdal yn cael eu gwneud drwy asiantaethau partner, yn hytrach nag yn uniongyrchol gan Fwyd Da Môn. Nid yw’r gwasanaeth hwn yn cymryd lle’r banciau bwyd ar Ynys Môn, sydd yn darparu gwasanaeth llinell blaen hanfodol i’r rhai sydd mewn angen, rydyn ni yn gwneud ein gorau i fod yn gymhares i’w gwaith called ac yn falch iawn i gydweithio efo nhw.