Amdanom ni

Bob blwyddyn, mae tunelli i fwyd gwerth biliynau o bunnoedd yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi. Mae hyn yn cael effaith amgylcheddol enfawr ac mae hefyd yn golygu colli bwyd y gellid ei ail-bwrpasu’n hawdd a’i ailddosbarthu i’r gymuned, gan roi mynediad i bobl at fwyd o ansawdd da am bris isel a fyddai fel arall yn cael ei wastraffu. Sefydlwyd Bwyd Da Môn i fynd i’r afael â’r broblem hon ar Ynys Môn.

Mae Bwyd Da Môn wedi tyfu o gydweithio rhwng nifer o sefydliadau yn cynnwys Cyngor Sir Ynys Môn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor ar Bopeth Ynys Môn, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, Grŵp Llandrillo Menai, Banc Bwyd Môn, sefydliadau sector preifat a nifer o sefydliadau yn y sector gwirfoddol.

© 2020 - 2025 BwydDaMon