Credwn yn ein Cymuned

Credwn na ddylai unrhyw fwyd fynd yn wastraff tra bod aelodau o'n cymuned yn llwglyd.

Dechrau Sut mae'n Gweithio

Amdanom ni

Bob blwyddyn, mae tunelli i fwyd gwerth biliynau o bunnoedd yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi. Mae hyn yn cael effaith amgylcheddol enfawr ac mae hefyd yn golygu colli bwyd y gellid ei ail-bwrpasu’n hawdd a’i ailddosbarthu i’r gymuned, gan roi mynediad i bobl at fwyd o ansawdd da am bris isel a fyddai fel arall yn cael ei wastraffu. Sefydlwyd Bwyd Da Môn i fynd i’r afael â’r broblem hon ar Ynys Môn.

Darllenwch fwy amdanom ni

Sut mae'n gweithio

Canolbwynt hyb gymunedol Bwyd Da Môn yw siop nid er elw sy’n ailddosbarthu cynnyrch gan nifer o archfarchnadoedd a chynhyrchwyr bwyd eraill. Mae’r siop yn glwb bwyd i aelodau.
Mae bwyd dros ben a fyddai fel arall yn mynd i safleoedd tirlenwi yn cael ei gasglu gan gyflenwyr bwyd lleol. Mae’r hyb cymunedol hwn hefyd yn datblygu syniadau a gweithgareddau sy’n annog a chefnogi iechyd a llesiant pobl ar Ynys Môn
1. Ymaelodwch a'n sefydliad
2. Am £5 y wythnos byddwch yn derbyn gwerth tua £20 o fwyd
3. Bydd stoc ffres ar gael

Ryseitiau gan Gogyddion Lleol ...

Bydd ryseitiau hawdd eu dilyn yn cael eu datblygu fel eich bod chi'n gwybod yn union pa brydau bwyd y gallwch chi eu gwneud gyda'r bwyd, yn enwedig gyda'r cynhwysion anghyfarwydd hynny!

Dewch yn aelod
Caserol Cyw Iâr
Read now
Cawl Pwmpen wedi rhostio Ella
Read now

Rydyn ni'n gryfach gyda'n gilydd

Mae clwb bwyd yn seiliedig ar aelodaeth yn cael ei sefydlu, heb unrhyw feini prawf cymhwysedd o gwbl. Bydd £5 yr wythnos yn sicrhau o leiaf £20 o gynnyrch i chi o gig a physgod ffres ac wedi'u rhewi, i ffrwythau a llysiau ffres, ac ystod

Gwen

"Fedrai ddim disgwyl dod yn aelod o Fwyd Da Môn. Dwi'n credu'n angerddol mewn lleihau gwastraff bwyd a helpu'r amgylchedd. Dwi'n ymwybodol fod Bwyd Da Môn yn derbyn llawer o fwyd fegan a llysieuol sydd yn gallu bod yn ddrud ofnadwy. Dwi wrth fy modd hefo'r syniad o greu prydau gwahanol hefo cynhwysion newydd gan fy mod wrth fy modd yn coginio!"

Andy

"Am syniad gwych i'r amgylchedd ac i'n hiechyd a'n lles."

Bethan

"Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i gael ymaelodi gyda Bwyd Da Môn. Mi fydd gwybod mod i’n helpu i leihau gwastraff bwyd yn grêt, a dwi’n gobeithio byddai yn cael trio ambell beth na fuaswn i’n eu mentro mewn archfarchnad. Mi fydd gwybod mod i’n arbed arian ar fy siopa wythnosol yn help mawr hefyd!"

Join our community

Cysylltwch a ni

Defnyddiwch y ffurflen isod i gysylltu a ni. Rydym yn croesawu unrhyw un o'ch cwestiynau, sylwadau neu adborth.

Ni fyddwn byth yn rhannu eich e-bost ag unrhyw un arall.
© 2020 - 2024 BwydDaMon