POLISI PREIFATRWYDD

Gweithredir y polisi preifatrwydd hwn rhyngoch chi, Defnyddiwr y gwefan hwn a Bwyd Da Môn, perchennog a darparwr y wefan. Mae Bwyd Da Môn yn cymryd preifatrwydd eich gwybodaeth o ddifrif iawn. Mae’r polisi preifatrwydd hon yn berthnasol i unrhyw a holl Ddata y cesglir gennym ni neu a ddarparir ganddo’ch chi mewn perthynas â’ch defnydd chi o’r wefan. Ddylid darllen y polisi hwn wrth ochr ag yn ogystal ag, eith Telerau ac Amodau, sydd ar gael ar: https://bwyd-da-mon.org.uk/terms.

Darllenwch y polisi hwn yn ofalus os gwelwch yn dda.

Diffiniadau a dehongliad

  1. Yn y polisi preifatrwydd hwn, defnyddir y diffiniadau dilynol:
    Data yr holl wybodaeth rydych chi’n cyflwyno i Bwyd Da Môn drwy’r wefan yn gyfunol. Mae’r diffiniad hon yn ymgorffori, lle’n ddilys, y diffiniadau a ddarparwyd yn y Cyfreithiau Diogelu Data;
    Cwcis ffeil testun bychan a gosodir ar eich cyfrifiadur gan y Wefan hon pan fyddwch yn ymweld â rhannau penodol o’r Gwefan a/neu pan fyddwch yn defnyddio nodweddion penodol o’r Gwefan. Amlinellir manylion o’r cwcis a ddefnyddir gan y Wefan hon yn y cymal isod ( Cwcis);
    Cyfreithiau Diogelu Data unrhyw gyfraith yn gysylltiedig â phrosesu Data personol, gan gynnwys ond ddim yn gyfyngedig i’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), ag unrhyw gyfreithiau gweithredu ag ychwanegu cenedlaethol, rheolau a deddfwriaeth eilaidd;
    GDPR Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU;
    Bwyd Da Môn, ni Bwyd Da Môn, Cwmni corfforedig yng Nghymru a Lloegr gyda rhif cofrestru 12859987 sydd gyda’u swyddfa gofrestredig yn 34 Stryd yr Eglwys, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7DU;
    Cyfraith Cwci DU a UE y Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (Cyfarwyddeb CE) 2003, diwygiedig gan y Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (Cyfarwyddeb CE) (Diwygiad) 2011 a’r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (Cyfarwyddeb CE) (Diwygiad) 2018;
    Defnyddiwr neu chi unrhyw drydydd parti sydd yn defnyddio’r Wefan ac nid yw’n (i) cyflogedig gan Bwyd Da Môn ac yn ymddwyn yng nghyfeiriad eu cyflogaeth nag yn (ii) ymgymryd fel ymgynghorwr neu yn darparu gwasanaethau fel arall i Bwyd Da Môn ac yn defnyddio’r Gwefan mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth o'r gwasanaethau; ag
    Gwefan y gwefan yr ydych yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd, http://www.bwyd-damon.org.uk, ag unrhyw is-barthau o’r wefan hon heb ei fod wedi’i gwahardd yn unswydd gan eu telerau ac amodau ei hunain.
  2. Yn y polisi preifatrwydd hwn, heblaw i’r cyfystyr angen dehongliad gwahanol:
    1. mae’r unigol yn cynnwys y lluosog ac i’r gwrthwyneb;
    2. mae cyfeiriadau at is-gymalau, cymalau, neu atodiadau yn cyfeirio at is-gymalau, cymalau, neu atodiadau'r polisi preifatrwydd hwn;
    3. mae cyfeiriad at berson yn cynnwys cwmnïau, endidau llywodraeth, ymddiriedolaethau a phartneriaethau;
    4. deallir “gan gynnwys” i olygu “gan gynnwys heb gyfyngiad”;
    5. mae cyfeiriad at unrhyw ddarpariaeth statudol yn cynnwys unrhyw newidiad neu ddiwygiad iddi;
    6. nid yw’r penawdau neu is-benawdau yn ffurfio rhan o’r polisi preifatrwydd hwn.

Terfynau’r polisi preifatrwydd hwn

  1. Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn ddilys i weithrediadau Bwyd Da Môn a Defnyddwyr ynglŷn â’r gwefan hon yn unig. Nid yw’n ymestyn i unrhyw wefannau y gellir defnyddio o’r gwefan hon gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i, unrhyw ddolenni y byddem yn darparu i wefannau cyfryngau cymdeithasol.
  2. Er pwrpas y Cyfreithiau Diogelu Data dilys, Bwyd Da Môn yw’r “rheolwr data”. Mae hyn yn golygu fod Bwyd Da Môn yn penderfynu’r pwrpasau, a’r ffodd y mae eich data yn cael ei brosesu.

Data a gesglir

  1. Mae’n bosib i ni gasglu’r Data canlynol, sydd yn cynnwys data personol, ganddo’ch:
    1. enw;
    2. rhyw;
    3. manylion cyswllt megis cyfeiriadau ebost a rhifau ffôn;
    4. manylion ariannol megis rhifau cerdyn credyd/debyd;
    mewn pob achos, yn unol â'r polisi preifatrwydd hwn.

Sut yr ydym yn casglu Data

  1. Rydym yn casglu data yn y ffyrdd canlynol:
    1. rydym yn derbyn data ganddo’ch chi; a
    2. cesglir data yn awtomatig.

Data yr ydych yn ei roi i ni

  1. Fydd Bwyd Da Môn yn casglu eich data mewn nifer o ffyrdd, er enghraifft:
    1. pan fyddwch yn cysylltu â ni drwy’r Gwefan, dros ffôn, post neu e-bost neu mewn unrhyw ffordd arall;
    2. pan fyddwch yn cofrestru gyda ni ac yn creu cyfrif er mwyn derbyn ein cynnyrch/gwasanaethau;
    3. pan fyddwch yn cwblhau holiaduron yr ydym yn defnyddio ar gyfer ymchwil (er and ydych yn gorfod ymateb iddynt);
    4. pan fyddwch yn gwneud taliadau i ni drwy’r Gwefan nau fel arall;
    5. pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau;
    mewn pob achos, yn unol â'r polisi preifatrwydd hwn.

Data a gesglir yn awtomatig

  1. I’r raddau yr ydych yn defnyddio’r Gwefan, byddem yn casglu eich Data yn awtomatig, er enghraifft;
    1. rydym yn casglu gwybodaeth ganddo’ch ynglŷn â’ch ymweliad i’r Gwefan yn awtomatig. Mae’r wybodaeth yma yn ein helpu i wella cynnwys a gwe-lywiad y Gwefan, ac yn cynnwys eich cyfeiriad IP, y dyddiad, amseroedd ac amlder eich defnydd o’r Gwefan a’r ffordd yr ydych yn rhyngweithio gyda’i chynnwys.
    2. rydym am gasglu eich Data yn awtomatig trwy cwcis, yn unol â gosodiadau cwcis eich porwr. Am fwy o wybodaeth ar cwcis, a sut yr ydym y neu ddefnyddio ar y Wefan, gweler y pennawd “Cwcis” isod.

Ein defnydd o Data

  1. Mae’n bosib fydd angen unrhyw un neu’r holl Ddata uchod arnom o bryd i’w gilydd er mwyn rhoi’r gwasanaeth a phrofiad orau posib i chi wrth ddefnyddio ein Gwefan. Yn benodol, mae’n bosib i ni ddefnyddio Data am y rhesymau canlynol:
    1. gwelliant ein cynnyrch / gwasanaethau mewn pob achos, yn unol â'r polisi preifatrwydd hwn.
  2. Mae’n bosib i ni ddefnyddio eich Data ar gyfer y pwrpasau uchod os yr ydym yn ei farnu’n angenrheidiol i wneud er mwyn ein buddiannau cyfreithlon. Os nad ydych yn fodlon efo hyn mae’r hawl gennych i wrthwynebu mewn rhai sefyllfaoedd (gweler y pennawd “Eich hawliau” isod).
  3. Pan fyddwch yn cofrestru efo ni ac yn creu cyfrif er mwyn derbyn ein gwasanaethau, sylfaen cyfreithiol y prosesu hwn yw perfformiad cytundeb rhyngoch chi a ni ac/neu gymryd camau, drwy eich cais, i gychwyn cytundeb o’r fath.

Gyda pwy rydym yn rhannu Data

  1. Mae’n bosib i ni rannu eich data gyda’r grŵpiau canlynol am y rhesymau canlynol:
    1. . ein gweithwyr, gweithredwyr a/neu gynghorwyr proffesiynol – er mwyn prosesu taliadau a rheoli aelodaeth; mewn pob achos, yn unol â'r polisi preifatrwydd hwn.

Diogelu Data

  1. Byddem yn defnyddio mesurau technegol a chyfundrefnol er mwyn amddiffyn eich Data, er enghraifft:
    1. mae mynediad i’ch cyfrif wedi ei reoli gan gyfrinair ac enw defnyddiwr sydd yn unigryw i chi
    2. rydym yn cadw eich Data ar weinyddion saff
    3. mae manylion talu yn cael eu seiffro gan ddefnyddio technoleg SSL (fel arfer gwelwch eicon clo neu far cyfeiriad gwyrdd (neu’r ddau) yn eich porwr wrth i ni ddefnyddio’r dechnoleg yma).
  2. mae mesurau technegol a chyfundrefnol yn cynnwys mesurau i ymdrin ag unrhyw dor-cyfraith data amheus. Os ydych yn amau unrhyw gamddefnydd neu golled neu fynediad anawdurdodedig i’ch Data, rhowch wybod i ni yn syth gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost hwn os gwelwch yn dda: info@bwyd-da-mon.org.uk.
  3. Os hoffwch wybodaeth fanwl gan Get Safe Online ar sut i amddiffyn eich gwybodaeth ac eich cyfrifiaduron a dyfeisiau yn erbyn twyll, lladrad hunaniaeth, feirysau a nifer o broblemau ar-lein eraill ewch i www.getsafeonline.org. Cefnogir Get Safe Online gan Lywodraeth EM a busnesau arweiniol.

Dargadwad data

  1. Heblaw bod angen neu caniateir yn gyfreithlon cyfnod dargadwad data hirach, byddem ond yn dal eich data ar ein sustemau am y cyfnod angenrheidiol er mwyn cyflawni’r pwrpasau amlinellir yn y polisi preifatrwydd hwn, eu nes i chi ofyn am ddileu’r Data.
  2. Hyd yn oed os ydym yn dileu’ch Data, mae’n bosib iddo barhau ar gyfryngau cefnogol neu archifol ar gyfer pwrpasau cyfreithiol, trethol, neu reoliad.

Eich hawliau

  1. Mae’r hawliau canlynol ganddo’ch ynglŷn â’ch Data:
    1. Hawl at fynediad - Yr hawl i geisio (i) copïau o’r wybodaeth yr ydym yn cadw amdanoch ar unrhyw adeg, neu (ii) ein bod yn newid, diweddaru neu ddileu'r fath yma o wybodaeth. Os ydym yn rhoi mynediad i’r wybodaeth yr ydym yn cadw amdanoch, i chi, ni fyddem yn codi arnoch am hyn, oni bai fod eich cais yn “amlwg yn ddi-sylfaen neu ormodol.” Lle caniateir i ni yn gyfreithiol, mae’n bosib i ni wrthod eich cais. Pe baem ni i wrthod eich cais, wnawn egluro i chi am y rhesymau pam.
    2. Hawl i gywiro - – yr hawl i ofyn i ni unioni eich Data os yw’n anfanwl neu anghyflawn
    3. Hawl i ddileu - yr hawl i ofyn i ni ddileu neu ddiddymu eich Data oddi ar ein sustemau
    4. Hawl i gyfyngu ein defnydd o’ch Data - hawl i’n “rhwystro” ni rhag defnyddio eich Data neu gyfyngu’r ffordd yr ydym yn ei ddefnyddio.
    5. Hawl at hygludedd data - yr hawl i ofyn i ni symud, copïo neu drosglwyddo eich Data.
    6. Hawl i wrthwynebu - – yr hawl i wrthwynebu ein defnydd o’ch Data gan gynnwys lle yr ydym yn ei ddefnyddio er mwyn ein buddiannau cyfreithlon
  2. Er mwyn ymholi, cyflawni unrhyw un o’ch hawliau a amlinellir uchod, neu ddiddymu eich caniatâd i ni brosesu eich Data (lle’r caniatâd yw ein sylfaen cyfreithiol dros brosesu eich Data), cysylltwch â ni drwy’r cyfeiriad e-bost hon: info@bwyd-da-mon.org.uk
  3. Os nad ydych yn fodlon gyda’r ffordd yr ydym yn ymdrin â chŵyn ynglŷn â’ch Data, efallai y byddwch yn medru cyfeirio eich cwyn tuag at yr awdurdod diogelu data perthnasol. Yn y DU hwn yw Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Gweler manylion cyswllt yr ICO ar eu gwefan: https://ico.org.uk/.
  4. Mae’n bwysig fod y Data yr ydym yn cadw amdanoch yn fanwl ac yn ddiweddar. Gadewch i ni wybod os yw eich Data yn newid yn ystod y cyfnod yr ydym yn ei gadw.

Dolenni i wefannau eraill

  1. Mae’n bosib i’r Gwefan hon, o bryd i’w gilydd, rhoi dolenni i wefannau eraill. nid oes gennym reolaeth dros y gwefannau hyn ac nid ydym yn gyfrifol dros gynnwys y gwefannau hyn. Nid yw’r polisi preifatrwydd hwn yn ymestyn at eich defnydd o’r gwefannau hyn. Rydym yn eich ymgynghori i ddarllen polisi neu ddatganiad unrhyw wefannau eraill cyn eu defnyddio.

Newidiadau perchnogaeth a rheolaeth busnes

  1. Mae’n bosib i Bwyd Da Môn, o bryd i’w gilydd, ehangu neu leihau ein busnes a gall hyn cywydd gwerthu a/neu drosglwyddiad rheolaeth rhan neu gyfanwaith Bwyd Da Môn . Bydd Data gan ddefnyddwyr, lle mae’n berthnasol i unrhyw ran o’n busnes a throsglwyddir, yn cael ei drosglwyddo gyda’r rhan hyn, a chaniateir i’r perchennog neu barti rheoli newydd, o dan dermau’r polisi preifatrwydd hwn, ddefnyddio’r Data ar gyfer y pwrpasau y cafodd ei ddarparu i ni yn wreiddiol.
  2. Mae’n bosib hefyd i ni ddatgelu Data i brynwr darpar o’n busnes neu unrhyw ran ohono.
  3. Yn yr achosion uchod gwnawn gymryd camau i sicrhau fod eich preifatrwydd wedi’i amddiffyn

Cwcis

  1. Gall y Wefan hon rhoi a defnyddio rhai Cwcis ar eich cyfrifiadur. Mae Bwyd Da Môn yn defnyddio Cwcis er mwyn gwella eich profiad o ddefnyddio’r Gwefan ac er mwyn gwella ein rheng o wasanaethau. Mae Bwyd Da Môn wedi dewis y cwcis hyn yn ofalus ac wedi cymryd camau i sicrhau fod eich preifatrwydd wedi’i ddiogelu a’r pharchu bob amser.
  2. Defnyddir bob Cwci ar y Wefan hon yn unol â Chyfraith Cwci y DU a’r UE.
  3. Cyn i’r Wefan gosod Cwcis ar eich cyfrifiadur cyflwynir bar neges i chi yn gofyn am eich caniatâd i osod y Cwcis hynny. Wrth roi’ch caniatâd i roi Cwcis, rydych yn galluogi Bwyd Da Môn i ddarparu profiad a gwasanaeth gwell i chi. gallwch, os hoffwch, gwrthod caniatâd i roi Cwcis; ond mae’n bosib na fydd rhai rhannau o’r gwefan yn gweithredu yn llawn neu fel y bwriedir.
  4. Gall y Wefan gosod y Cwcis canlynol:
    Math o Cwci Pwrpas
    Cwcis angenrheidiol yn unig Mae’r rhain yn cwcis sydd eu hangen ar gyfer gweithrediad ein gwefan. Maent yn cynnwys, er enghraifft, cwcis sydd yn eich galluogi i fewngofnodi i rannau diogel o’n gwefan, defnyddio basged siopa neu wneud defnydd o wasanaethau e-bilio.
    Cwcis dadansoddi/perfformiad Maent yn ein galluogi i adnabod a chyfrif y nifer o ymwelwyr a gweld sut mae ymwelwyr yn symud o gwmpas ein gwefan wrth iddynt ei ddefnyddio. Mae hyn yn ein helpu i wella’r ffordd mae ein gwefan yn gweithio, er enghraifft, trwy sicrhau bod ymwelwyr yn ffeindio beth y maent yn chwilio amdano yn hawdd.
  5. Gweler yr Atodiad Cwcis ar gyfer rhestr o’r Cwcis rydym yn eu ddefnyddio.
  6. Gallwch ddewis i alluogi neu analluogi trwy eich porwr rhyngwyd. Mae’r rhan fwyaf o borwyr rhyngwyd yn derbyn Cwcis yn ddiofyn ond gellir newid hyn. Am fanylion pellach, gweler dewislen help eich porwr rhyngwyd.
  7. Gallwch ddewis i ddileu Cwcis unrhyw adeg; ond mae’n bosib gwnewch golli unrhyw wybodaeth sydd yn eich galluogi i ddefnyddio’r Gwefan yn fwy sydyn ac effeithlon gan gynnwys, ond ddim yn gyfyngedig i, gosodiadau personoli.
  8. Argymhellir i chi sicrhau fod eich porwr rhyngwyd yn ddiweddar ac eich bod yn ymgynghori â’r cyngor a ddarparir gan ddatblygwr eich porwr rhyngwyd os ydych yn ansicr ynglŷn ag addasu eich gosodiadau preifatrwydd.
  9. Am fwy o wybodaeth yn gyffredinol ar cwcis, gan gynnwys sut i’w anablu, cyfeiriwch at aboutcookies.org. Gwnewch ffeindio manylion ar sut i ddileu cwcis o’ch cyfrifiadur.

Cyffredinol

  1. Ni allwch drosglwyddo unrhyw un o’ch hawliau o dan y polisi preifatrwydd hwn i unrhyw berson arall. Mae’n bosib i ni drosglwyddo ein hawliau o dan y polisi hwn lle credwn yn rhesymol na fydd eich hawliau yn cael eu heffeithio.
  2. Os bydd unrhyw gwrt neu awdurdod cymwys yn canfod bod unrhyw ddarpariaeth o’r polisi preifatrwydd hwn (neu ran o unrhyw ddarpariaeth) yn annilys, anghyfreithlon neu anorfodadwy, caiff y ddarpariaeth neu ran-ddarpariaeth, hyd at y bydd angen, ei ystyried fel ei fod wedi’i ddileu, ac ni effeithir ar ddilysrwydd na gorfodadwyedd o ddarpariaethau eraill y polisi preifatrwydd.
  3. Heblaw lle gytunwyd fel arall, ni fydd unrhyw oedi, gweithred, neu hepgoriad gan barti wrth weithredu unrhyw hawl neu welliant yn cael ei hystyried fel ildiad o’r hawl neu welliant hynny neu unrhyw un arall.
  4. Caiff y cytundeb hwn ei lywodraethu a’i ddehongli un unol â chyfraith Cymru a Lloegr. Fydd unrhyw ddadl yn codi o dan y Cytundeb yn ddarostyngedig i awdurdodaeth gyfyngedig llysoedd Cymru a Lloegr.

Newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn

  1. Mae Bwyd Da Môn yn cadw’r hawl i newid y polisi preifatrwydd hwn fel y byddem yn barnu yn angenrheidiol o bryd i’w gilydd neu fel y gofynnir gan y gyfraith. Cyhoeddir unrhyw newidiadau yn syth ar y Gwefan a byddem n barnu eich bod wedi derbyn telerau’r polisi preifatrwydd ar eich defnydd cyntaf o’r Gwefan yn dilyn y newidiadau.

Gallwch gysylltu â Bwyd Da Môn trwy e-bost ar info@bwyd-da-mon.org.uk.

© 2020 - 2024 BwydDaMon