Cynhwysion

  • 8 clun cyw iâr gyda’r asgwrn tu fewn a’r croen arnynt (tua 850g / 1 pwys 14 owns)
  • 1 llwy fwrdd olew olewydd neu blodyn haul
  • 1 nionyn, wedi’i thafellu yn fân
  • 4 sleisen cig moch cefn wedi cochi, wedi’u thorri i ddarnau o tua 2 cm / ¾ modfedd
  • 150g / 5 ½ owns madarch bach, wedi haneru neu chwarteru os yn fwy
  • 3 moronen ganolig, wedi’u phlicio a thorri i ddarnau o tua 1.5 cm / 5/8 modfedd
  • 20g / ¾ owns blawd plaen (tua 2 lwy fwrdd)
  • 1 llwy de teim sych, neu 1 llwy fwrdd o ddail teim ffres
  • 500ml / 18 owns hylif stoc cyw iâr boeth (wedi gwneud efo 1 ciwb stoc)
  • 1 cenhinen ganolig, wedi’i thorri i ddarnau o tua 1cm / ½ modfedd
  • Halen a phupur du newydd ei felino

Dull

  1. Cynheswch eich ffwrn i 190C/170C ffan / nwy 5. Blasuswch y cluniau cyw iâr gydag ychydig o halen a thipyn go lew o bupur
  2. Cynheswch yr olew mewn padell wrthglud fawr dros wres canolig a ffriwch y cyw iâr am 7-8munud gyda’r croen i lawr, neu nes bod y croen wedi’i frownio yn neis. Trowch a choginiwch ar yr ochr arall am 3 munud ychwanegol. Rhowch ar blât.
  3. Ewch a’r badell yn ôl i’r gwres ac ychwanegwch y nionyn, cig moch a madarch. Ffriwch dros wres canolig-uchel am 4-5 munud, neu nes eu bod wedi brownio yn ysgafn, gan droi yn aml. Tollwch i mewn i ddysgl popty efo caead. Ychwanegwch y moron a’r blawd a chymysgwch yn dda.
  4. Ysgeintiwch gyda'r teim, wedyn tollwch y stoc, ychydig ar y tro, gan droi’n dda rhwng bob ychwanegiad. Ychwanegwch y darnau cyw iâr a mudferwch. Gorchuddiwch y badell gyda chaead.
  5. Coginiwch yn y ffwrn am 45 munud. Tynnwch allan o’r ffwrn ag ychwanegu’r cennin. Coginiwch yn y ffwrn am 15 munud ymhellach, neu nes bod y cyw iâr a’r cennin yn feddal a bod y saws wedi tewychu. Gweinwch

Awgrym coginio : Gallwch ddefnyddio filedi clun cw iar heb asgwrn na chroen ar gyfer y rysait hon os ydy’n well ganddoch. Ffriwch am tua 3 munud bob ochr cyn symud i blat. Dilynwch y rysait fel uhcod ond coginiwch am 35 munud yn hytrach na 45 cyn ychwanegu’r cennin.