Cynhwysion

  • 1 pwmpen neu gwrd
  • 700ml stoc llysiau neu gyw iâr
  • 1 nionyn, wedi’i thorri’n fân
  • Halen a phupur i flasu
  • 2 ewin garlleg
  • tsili ffres neu fflochiau tsili wedi sychu (dewisol)
  • eich hoff sesnin (gweler y dull)
  • ychydig o olew ar gyfer rhostio

Dull

Defnyddiwch gyllell fawr i dorri eich pwmpen i ddarnau mawr (dim mwy na’ch dwrn). Defnyddiwch lwy i dynnu’r hadau, golchwch nhw o dan y tap a’u gwahanu o’r darnau llinynnog. Cadwch y ddau (ar wahân) at nes ymlaen.

Rhowch y darnau mewn dysgl rhostio neu ddau, yn dibynnu ar faint y bwmpen. Rhowch ychydig o olew, halen, pupur ag unrhyw sesnin arall hoffwch chi, wedyn eu rhostio am tua 40 munud ar 180°, nes eu bod yn feddal ac yn dechrau mynd yn frown ar yr ochrau.

Gadewch iddynt oeri nes eich bod yn medru eu gafael yn gyfforddus, wedyn tynnwch y croen o’r cnawd (mae hi gymaint haws gwneud fel hyn na cyn eu coginio, ac rydych chi’n gwastraffu gymaint llai).

Wrth i’r darnau pwmpen oeri, rhowch eich hadau pwmpen glan ar eich dysgl rhostio (arbed ar olchi i fyny i gymharu efo defnyddio un newydd), rhowch ychydig o olew ag eich hoff sesnin drostynt (dwi yn bersonol yn mynd am gymysgedd o fflochiau tsili, powdr garlleg, paprika a cumin).

Cymerwch nionyn, ei dorri’n fan a’i ffrio mewn sosban digon mawr i’r holl ddarnau pwmpen. Fyddai ddim yn defnyddio olew, mae’n well gen i ychwanegu ychydig o ddŵr os ydy pethau’n dechrau sticio i’r gwaelod, ond fyddai menyn yn ofnadwy o flasus. Ychwanegwch ewin neu ddau o arlleg, ag un ai tsili ffres neu ychydig o fflochiau sych (yn hollol ddewisol) a choginiwch am ychydig o funudau yn fwy.

Unwaith fod y nionyn yn dryloyw, ychwanegwch eich darnau pwmpen wedi rhostio, darnau llinynnog o’r hadau, a digon o ddoc llysiau i orchuddio popeth. Berwch am tua 15-20 munud, wedyn un ai rhowch swp ar y tro mewn cymysgydd trydanol, neu defnyddiwch gymysgydd llaw nes ei fod yn esmwyth.

Gweinwch gydag ysgeintiad o’ch hadau pwmpen wedi rhostio ag ychydig o fara. Mae’r hadau hefyd yn gwneud fel byrbryd blasus a maethlon.

Ymwadiad gan Ella: Rydw i bron iawn mor bell a gewch chi o gogydd proffesiynol, felly mae fy null i yn un o “lechio bob dim i’r badell a gobeithio am yr orau”. Gwnewch yn siŵr i addasu hwn i’ch blas chi, fy hoff beth i am goginio cartref yw darllen rysáit a’i daflu allan o’r ffenest (trosiadol)!